Rhybudd o lifogydd

  • Cyhoeddwyd

Mae yna rybudd i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth rhag llifogydd gyda rhagolygon o law trwm a tharanau yng Nghymru.

Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd yna gawodydd trwm yn y gogledd nos Llun gan ledu i weddill Cymru dydd Mawrth a dydd Mercher.

Yn ôl asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mae'r tywydd cynnes diweddar yn golygu fod y tir yn galed, ac y bydd dŵr glaw yn llifo drosto yn gynt.

Fe allai hyn olygu risg o lifogydd ar y ffyrdd wrth i nentydd a ffosydd orlifo.

Mae rhybudd y gallai amodau gyrru fod yn anodd ac y dylid gwrando am adroddiadau tywydd cyn dechrau siwrne.

Mae'r manylion diweddara am rybuddion llifogydd ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu drwy ffonio'r llinell llifogydd ar 0845 988 1188.