Llacio rheolau cynllunio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd rhaid cyrraedd gofynion maint, lleoliad ac edrychiad, ond mae'r gweinidog yn gobeithio rhoi mwy o hyblygrwydd i berchnogion tai

Ni fydd perchnogion tai yng Nghymru angen caniatâd cynllunio ar gyfer ystod ehangach o waith ymestyn ar eu cartrefi.

Cyhoeddodd y gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant y newidiadau fydd yn dod i rym ym mis Medi.

Bydd yr Hawliau Datblygu a Ganiateir yn golygu na fydd angen caniatâd cynllunio i adeiladu ystod fwy eang o estyniadau i dai, neu adeiladau yn yr ardd.

Gofynion manwl

Bydd rhaid i'r cynlluniau gyrraedd gofynion manwl yn ymwneud â maint, lleoliad ac edrychiad, ond dywedodd y gweinidog y byddai'r rheolau yn rhoi mwy o hyblygrwydd i berchnogion.

"Sicrhau bod gan bobl Cymru dai o ansawdd da sy'n fforddiadwy a diogel yw fy mlaenoriaeth bennaf," meddai Mr Sargeant.

"Mae'r newid hwn yn golygu na fydd angen caniatâd cynllunio er mwyn gwneud mân addasiadau a gwelliannau na fyddai neb yn eu gwrthwynebu."

Yn Lloegr, cafodd cynllun tebyg ei gymeradwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi, fyddai'n caniatáu gwaith adeiladu cyn belled a does dim gwrthwynebiad gan gymdogion.

Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Prydain wedi awgrymu llacio rheolau cynllunio i ganiatáu unrhyw estyniad un llawr dan 8 metr i dai ar wahân, neu 6 metr i dai eraill.

Ond daeth beirniadaeth gan rai aelodau oedd yn pryderu na fyddai gan gymunedau unrhyw hawl i roi barn ar gynlluniau posib.

Hyblygrwydd

Yng Nghymru, dywedodd y gweinidog bod y cynllun yn gytundeb teg: "Amcan y newid hwn yw cadw'r ddysgl yn wastad rhwng rhoi mwy o ryddid i ddeiliaid tai a'r angen am ddiogelu buddiannau cymunedau ac effaith datblygu ar yr amgylchedd."

Mae hefyd yn gobeithio y bydd y drefn newydd yn rhoi mwy o amser i awdurdodau lleol ddelio a cheisiadau mwy.

"Yn ogystal â rhoi hyblygrwydd i ddeiliaid tai i wneud gwelliannau bach i'w cartrefi heb orfod treulio amser a gwario arian ar ganiatâd cynllunio, rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn rhoi mwy o amser i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar geisiadau cynllunio mwy a chymhlethach."

"Yn ôl y rheol ar hyn o bryd, dim ond un estyniad y caniateir ei adeiladu heb ganiatâd cynllunio. Bydd y newid hwn yn golygu y gall deiliaid tai roi estyniad i'r to, talcen tŷ a'r cefn heb ganiatâd, cyn belled â'u bod yn bodloni gofynion penodol."

'Angen trafod'

Mae Ffederasiwn y Meistri Adeiladu wedi croesawu'r newid, ond maen nhw'n annog perchnogion i drafod gyda chymdogion cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.

Dywedodd cyfarwyddwr FMB Cymru, Richard Jenkins:

"Yn anffodus, mae mwy a mwy o bobl sydd ddim yn siarad gyda'u cymdogion.

"Felly does dim rhybudd ffurfiol, ac er bod hyn yn hwyluso'r broses i berchnogion, gall beidio trafod arwain at ddadlau bydd yn cynnwys adeiladwyr."

"Dylai aelodau'r FMB sicrhau bod rhybudd ffurfiol wedi ei roi i gymdogion cyn dechrau ar waith adeiladu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol