Pryder am golli effaith Llundain 2012 oherwydd toriadau

  • Cyhoeddwyd
Llundain 2012
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn amryw o gampau wedi cynyddu ers Gemau Llundain 2012

Mae pennaeth Chwaraeon Cymru wedi dweud bod toriadau ariannol yng Nghymru yn peryglu gwaddol Gemau Olympaidd 2012.

Dywedodd Laura McAllister y gall toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol gael effaith niweidiol ar y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.

Flwyddyn ers dechrau'r Gemau mae hi wedi galw am newid agwedd tuag at wariant ar chwaraeon yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.

Mae ffigyrau diweddaraf Chwaraeon Cymru yn dangos cynnydd o 30% yn y niferoedd sy'n paffio a nofio, a 30 o glybiau canwio newydd.

Mae 40% yn fwy o aelodau gan Gymnasteg Cymru o'i gymharu â Gorffennaf 2012, ac mae'r gymdeithas yn disgwyl y bydd yn parhau i ehangu.

Mae trefnydd Llundain 2012, Yr Arglwydd Coe wedi dweud bod Cymru wedi llwyddo i fanteisio ar y gemau, yn enwedig ym maes chwaraeon anabledd.

Ond mae Laura McAllister yn pryderu mai gwasanaethau chwaraeon fydd yn wynebu'r toriadau mwyaf llym, wrth i awdurdodau lleol geisio arbed miliynau o bunnau o'u cyllidebau.

"Mae'n rhaid bod effaith y gemau dan fygythiad yn y sefyllfa ariannol bresennol.

"Rydyn ni angen cefnogaeth gan ein llywodraeth a gan y sectorau yr ydyn ni'n eu helpu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym ni hanes balch o chwaraeon yng Nghymru.

"Rydym ni'n cydnabod y manteision pwysig chwaraeon - o safbwynt iechyd a'r economi - ac rydym ni wedi ymrwymo i gynyddu mynediad ac annog mwy i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol."

Toriadau 'hunllefus'

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) hefyd wedi rhybuddio am doriadau "hunllefus" a'r effaith ar gymunedau.

Ym mis Mehefin, dywedodd Steve Thomas, cyfarwyddwr y WLGA y byddai gwasanaethau cyhoeddus fel canolfannau hamdden yn gorfod cau os byddai Cymru yn wynebu toriadau mor llym â Lloegr.

Ym mis Gorffennaf, rhoddodd Cyngor Torfaen reolaeth o'i gwasanaethau hamdden i gorff allanol er mwyn gwella effeithlonrwydd.

Disgrifiad o’r llun,
Enillodd Jade Jones fedal aur Taekwondo yn Llundain 2012

Mae cynghorau Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi rhoi rheolaeth o wasanaethau hamdden i gwmniau allanol, ac mae pwll nofio Harlech dan reolaeth gwirfoddolwyr wedi i Gyngor Gwynedd benderfynu nad oedd yn gallu fforddio ei gadw.

Newid y drefn

Mae Chwaraeon Cymru yn derbyn £24 miliwn gan y Llywodraeth, a tua £16 miliwn gan y Loteri.

Yn ôl Laura McAllister, mae angen newid y ffordd y mae arian yn cael ei wario ar wasanaethau chwaraeon.

"Mae chwaraeon yn ffordd rad iawn o helpu adrannau fel iechyd ac addysg hefyd, felly'r neges yw annog y sectorau yna i ddod i weithio gyda ni," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol