CPD Caerdydd: Cytundeb dros ddyled

  • Cyhoeddwyd
Vincent Tan
Disgrifiad o’r llun,
Wythnos diwethaf, dywedodd Vincent Tan fod y clwb "o fewn dyddiau" i gytundeb.

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi dod i gytundeb ynghylch y ddyled gyda Langston, yn ôl y perchennog Vincent Tan.

Mae'n debyg bod y ddyled i Langston, cwmni sy'n cael ei gynrychioli gan gyn-berchennog y clwb, Sam Hammam, yn £24 miliwn.

Yn y gorffennol, mae Mr Tan wedi dweud y byddai cytundeb gyda Langston yn braenaru'r tir ar gyfer dyfodol diddyled i'r clwb.

Mae'r cytundeb, a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn golygu bod Mr Hammam yn cael ei benodi'n llywydd anrhydeddus am oes.

Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywedodd Vincent Tan ei fod yn "ddiolchgar ac yn ddyledus i Sam Hammam" ac eraill a dywedodd fod y cytundeb "yn dod â chyfnod hir o ansicrwydd i ben".

Ychwanegodd: "Mae'r setliad hwn yn caniatáu i ni edrych ymlaen at oes o sefydlogrwydd ariannol, a ddylai gael ei ddathlu gan bawb sy'n gysylltiedig â Dinas Caerdydd.

"Rydw i wrth fy modd, yn bennaf ar gyfer cefnogwyr y clwb gwych hwn, ein bod yn gallu anghofio'r mater yma a chynllunio'n dyfodol yn hyderus."

'Achlysur balch a hanesyddol'

Yn yr un datganiad, dywedodd Sam Hammam: "Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei ystyried yn achlysur balch a hanesyddol i bawb sy'n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Talodd deyrnged i "weledigaeth" Tan Sri Vincent Tan, gan ddweud bod y cytundeb yn galluogi'r clwb i ganolbwyntio ar y tymor yn yr uwch-gynghrair ac adeiladu ar gyfer y dyfodol gydag optimistiaeth.

Mae Mr Tan wedi buddsoddi £120 miliwn yn y clwb hyd yma.

Mae'n astudio'r posibilrwydd o gyhoeddi cyfrannau yn y clwb ar y farchnad stoc ym Malaysia.

'Arwyddocaol'

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, Tim Hartley, bod y cytundeb yn "symudiad arwyddocaol ac yn ddatblygiad i'w groesawu."

"Mae'r ddyled gan Langston wedi bod yn faen tramgwydd i ddatblygiad y clwb ers 10 mlynedd. Mae wedi rhwystro buddsoddiad yn y clwb ei hun, a bron rhwystro'r datblygiad uchelgeisiol i godi stadiwm newydd."

"Y nod yn y pendraw fydd clwb diddyled sy'n gallu edrych ar ôl ei hun yn ariannol, ac yn gallu buddsoddi mewn chwaraewyr i gystadlu ar y lefel uchaf, a dwi'n credu bod rhaid i ni fod yn ddiolchgar i Vincent Tan am lwyddo i wneud hyn."

Ond mae Mr Hartley yn credu bod mwy y gall Vincent Tan wneud i ddiogelu dyfodol y clwb.

"Y cam nesaf wrth gwrs fydd i ddyledion Vincent Tan gael eu troi yn gyfranddaliadau, fel y bod y clwb yn atyniadol i fuddsoddwyr newydd."

Er bod y cytundeb yn golygu rôl barhaol i Sam Hammam yn y clwb, nid yw Mr Hartley yn ddrwgdybus.

"Dwi'n gobeithio na fyddwn ni yn mynd yn ôl i'r hen ddyddiau lle roedd ganddo, yn amlwg fel cadeirydd, ddylanwad ar bwy maen nhw'n prynu.

"Ond un o dîm Sam Hammam fydd ar y bwrdd, felly fydd o ddim fel yn y gorffennol, a does dim angen poeni am ddylanwad Sam Hammam."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol