Trwydded Gymreig newydd ar gyfer ITV

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheoleiddiwr darlledu OFCOM wedi cyhoeddi newidiadau yn amodau nifer o drwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys rhai ITV.

Mae'n golygu y bydd trwydded newydd ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei chreu.

Yn ôl OFCOM, bydd hyn yn ffurfioli'r trefniadau presennol, sy'n golygu bod gan Gymru a Gorllewin Lloegr (ardal y drwydded bresennol) ddarllediadau ar wahan.

O dan y drwydded newydd, bydd hi'n ofynnol i'r darlledwr ddarparu 30 munud llawn o newyddion "rhanbarthol" yn gynnar yn ystod y nosweithiau o ddydd Llun i ddydd Gwener a lleihau hyd y bwletinau amser cinio ac ar benwythnosau, fel sy'n digwydd yn rhanbarthau Lloegr.

Dywed ITV Cymru Wales nad yw hyn yn golygu llai o newyddion.

Bydd y sianel yn ymestyn y bwletin ar ôl News at Ten i bymtheg munud, slot medden nhw sy'n denu nifer sylweddol uwch o wylwyr na'r rhaglenni y tu allan i'r oriau brig.

Mewn datganiad, dywedodd ITV: "Rydym yn croesawu cefnogaeth OFCOM i'n cynigion newyddion rhanbarthol, a fydd yn cadw rhaglennu lleol cynaliadwy wrth galon ein hamserlen am y degawd nesaf o leiaf.

"Mae cyhoeddiad heddiw hefyd yn nodi cam pwysig arall tuag at adnewyddu ein trwydded ar gyfer deng mlynedd lawn yn dilyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Tachwedd y llynedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol