Aur i Aled Davies
- Cyhoeddwyd

Mae Aled Davies wedi enill ei ail fedal aur ym Mhencampwriaeth Athletau Paralympaidd y byd yn Lyon.
Enillodd Davies gystadleuaeth y ddisgen yng nghategori F42.
Llwyddodd y dyn 22 oed o Ben y Bont i daflu record rhanbarthol o 47.62 metr i sicrhau teitl pencampwr y byd.
Daw'r fuddugoliaeth wedi medal aur yng nghystadleuaeth taflu pwysau ddydd Sul, a blwyddyn wedi ei fuddugoliaeth yng ngemau Paralympaidd Llundain 2012.
Ni chafodd y Cymro ddechrau gwych i'r gystadleuaeth gyda dau dafliad annheg yn y rowndiau cynnar, ond llwyddodd Davies i ymlacio i daflu 47.62m, dros 6m o flaen gweddill y cystadleuwyr.
"Doedd hi ddim yn hawdd, ond mae gadael fel pencampwr mewn dwy gystadleuaeth yn wythnos dda o waith," meddai.
"Roedd hi'n gystadleuaeth anodd ac roeddwn i eisiau dechrau hefo tafliad da ond llwyddais i ennill yn y diwedd a dyna sy'n bwysig."
Dydy'r Cymro heb golli unrhyw gystadleuaeth y mae o wedi cystadlu ynddi eto y tymor yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd2 Medi 2012