Medal Ryddiaith i Jane Jones Owen
- Cyhoeddwyd
Seremoni Priflenor Rhyddiaith / Prose Medal Ceremony
Jane Jones Owen sydd wedi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.
Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae bellach yn byw yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Y dasg i'r 10 ymgeisydd eleni oedd llunio cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Cwlwm'.
Er bod anghytuno rhwng y beirniaid, Menna Baines, Harri Parri ac Elfyn Pritchard, gwaith Ms Owen - o dan yr enw Sidan - a ddaeth i'r brig.
Ar ddechrau ei beirniadaeth yn y seremoni brynhawn dydd Mercher, dywedodd Menna Baines:
"Efallai y byddai rhywun wedi disgwyl rhagor [o ymgeiswyr] o gofio bod y testun yn un caredig o eang ei bosibiliadau.
Dywed Menna Baines eu bod wedi teimlo "cysgod" dros y gystadleuaeth eleni, oherwydd diffyg teilyngdod y llynedd.
'Mwyaf dyfynadwy'
Ychwanegodd mai ond "dyrnaid bach" o'r gweithiau oedd yn "priodi'n llwyddiannus". "Ond gan y goreuon hynny," meddai, "ceir gwaith gwych os nad gwefreiddiol."
Wrth gyfeirio at y gwaith buddugol, dywedodd Ms Baines: "Yn sicr, dyma ysgrifennwr mwyaf dyfynadwy'r gystadleuaeth.
"Mae'r awdur yn sylwebydd craff ar fywyd ac mae ganddo/i ddawn dweud ryfeddol."
Cyfrol o lên micro yw'r gwaith 'Gwe o Glymau Sidan', sy'n cynnwys 59 o ddarnau.
Mae'r darnau wedi'u gosod o dan enwau lleoedd yng ngogledd Cymru, gydag chynnwys cyfoes ar y cyfan heblaw am ambell ymweliad â'r gorffennol.
Amrywiaeth o themâu
Mae yna amryw o themâu yn y darnau, er enghraifft y newid cymdeithasol sydd wedi digwydd yng nghefn gwlad Cymru, a dioddefaint merched dan law dynion.
Jane Jones Owen yw'r ola' o bedwar o blant a fagwyd yng Nghefn Gwyn, Llanuwchllyn. Aeth i Goleg Prifysgol Bangor i astudio, ble graddiodd gydag Anrhydedd yn y Gymraeg.
Ar ôl cymhwyso fel athrawes, bu'n gweithio fel Llyfrgellydd yn Aberystwyth, ac fel newyddiadurwraig i raglen 'Bore Da' o Fangor.
Bu'n dysgu am rai blynyddoedd, cyn troi ei llaw at gyfieithu. Bu'n brif gyfieithydd-olygydd gyda Chynghorau Sir Clwyd a Sir Ddinbych.
Erbyn hyn mae wedi ymddeol.
Mae eisoes wedi ennill gwobrau Eisteddfodol - daeth i'r brig am gyfieithu drama tair act yn y Brifwyl ym Mhorthmadog yn 1987, ac yn ddiweddar enillodd ar gystadleuaeth stori ddychan yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint yn 2007, ac ar gasgliad o ddeg stori micro yn Y Bala yn 2009.
Rhoddwyd y Fedal eleni, a gwobr o £750, gan Glwb Rotari Dinbych.
Straeon perthnasol
- 7 Awst 2013