Cyflwyno Medal T H Parry-Williams i Dorothy Jones o Langwm

  • Cyhoeddwyd
Dorothy JonesFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dorothy Jones yn derbyn y fedal am ei gwaith yn ardal Llangwm ac Ysgol Glan Clwyd

Mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn mae Dorothy Jones o Langwm wedi derbyn Medal Goffa Syr T H Parry-Williams.

Cyflwynir y fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Roedd hi'n derbyn y fedal am ei gwaith yn ardal Llangwm am dros hanner canrif, yn enwedig ym maes llefaru.

Yn wreiddiol o Lawr-plwyf, Trawsfynydd, symudodd i Langwm ym 1955 fel athrawes ifanc, gan briodi un o feibion y fro.

Hyfforddi

Roedd yn Bennaeth Adran Anghenion Arbennig Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, am nifer o flynyddoedd ac yn hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc ar gyfer Eisteddfodau a pherfformiadau o bob math.

Roedd yn rhan o dîm yn yr ysgol oedd yn ysgrifennu a llwyfannu sioeau cerdd.

Ers iddi ymgartrefu yn Llangwm bron i 60 mlynedd yn ôl, roedd yn rhan greiddiol o Adran, Uwchadran ac Aelwyd yr Urdd yn y pentref, ac mae'n parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o baratoi'r rhaglen weithgareddau flynyddol o hyd.

Mae hefyd yn parhau i hyfforddi unigolion a phartïon ar gyfer eisteddfodau o bob math.

Dros y blynyddoedd mae wedi ysgrifennu nifer fawr o gerddi ar gyfer plant ac ieuenctid Cymru ac wedi cyfansoddi nifer o ganeuon i'w perfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen gan bobl ifanc Uwchaled ac Aelwyd Llangwm yn arbennig.

'Braint fwya' fy mywyd'

Cyn derbyn y wobr, dywedodd ei bod yn "fraint anhygoel".

"Mae fel breuddwyd i mi i ddweud y gwir," meddai. "Wnes i erioed feddwl am y peth. Rhyw feddwl ydw i, mae pawb yn gwneud rhyw bethau tebyg i mi i ddal pethau at ei gilydd ac i gadw pethau i fynd.

"Dwi wedi bod yn edrych ar y bobl sydd wedi derbyn y wobr yn y gorffennol a'u hedmygu'n ofnadwy. Dyma fraint fwya' fy mywyd i.

'Iasau'

"'Dwi wrth fy modd yn ymwneud â'r Pethe - 'dwi wrth fy modd yn gweld y plant yn gweithio, ac yn cael iasau lawr fy nghefn yn gwrando arnyn nhw."

Mae'r wythnos yn Ninbych eleni yn un hynod brysur iddi. A hithau'n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Llefaru, mae'n bresennol yn nifer fawr o'r rhagbrofion drwy gydol yr wythnos.

Rhwng popeth, mae'n Eisteddfod i'w chofio i'r llefarwraig o Langwm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol