Pryder am gerddwr ar goll

  • Cyhoeddwyd
Petra Maria HerkesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,
Aeth Petra Maria Herkes ar goll o'i chartref yn y Trallwng ddydd Llun

Mae Heddlu Dyfed Powys yn galw am wybodaeth am ddynes 64 oed sydd wedi mynd ar goll o'r Trallwng.

Aeth Petra Maria Herkes, sy'n dioddef o afiechyd Alzheimer's o'i chartref fore Llun ond dydy hi heb ddychwelyd.

Dywedodd yr Heddlu bod Ms Herkes yn mynd i gerdded yn aml, ond ei bod hi wedi bod yn dioddef o effeithiau cynnar yr afiechyd.

Mae ymdrech chwilio wedi dechrau, gyda thimau yn chwilio ardaloedd mawr o dir fferm a choedwigoedd o gwmpas y Trallwng.

Cafodd Ms Herkes ei disgrifio fel dynes croen gwyn, tua 5 troedfedd a 6 modfedd o daldra, tenau a gyda gwallt hir, llwyd.

Mae'n bosib bod Ms Herkes wedi ei gweld brynhawn ddydd Llun yn teithio i'r gorllewin ar ffordd yr A458, ond mae'r Heddlu yn dal i ofyn am fwy o wybodaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu:

"Mae nifer fawr o lonydd bach, caeau a choedwigoedd yn yr ardal ac felly rydyn ni'n gofyn i bawb gadw llygad allan.

"Rydyn ni'n apelio i unrhyw un sydd yn gweld Petra, neu gyda gwybodaeth all arwain at ddod o hyd iddi i gysylltu â ni yn syth."