BBC Cymru Fyw

Cyhoeddi enw Esgob Mynwy

Published
image captionRichard Pain yw'r esgob newydd
Mae esgob newydd Mynwy wedi ei ddewis brynhawn ddydd Mawrth.
Richard Pain, Archddiacon Mynwy fydd yn cymryd y rôl.
Cafodd ei ddewis wedi i holl Esgobion Cymru roi eu henwebiadau a phleidleisio yn eglwys gadeiriol Casnewydd.
Daw'r penodiad newydd yn dilyn ymddeoliad y cyn esgob, Dominic Walker, wedi 10 mlynedd fel Esgob Mynwy.