Morgannwg yn curo

  • Cyhoeddwyd
Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,
Chwaraewyr Morgannwg yn dathlu eu buddugolaeth

Mae Morgannwg wedi curo yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn eu gem 20 pelawd yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Goodwin ac Allenby 109 o rediadau rhyngthynt er mwyn galluogi eu tîm i sicrhau'r fuddugoliaeth yn y pelawd olaf.

Roedd Caerwrangon wedi gosod targed o 157 i'r clwb o Gymru a llwyddodd Wright i daro 4 gyda ergyd gyntaf y pelawd olaf er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae Morgannwg bellach yn ail yn eu grŵp gyda dwy gem ar ôl i'w chwarae - er y byddai Gwlad yr Haf yn cipio'r safle petai nhw'n ennill eu gêm nesaf gan eu bod wedi chwarae un yn llai na Morgannwg.

Swydd Gaerwrangon 157-6 (20 pelawd), Morgannwg 161-5 (19.1 pelawd)