Menyw fu ar goll yn ardal Y Trallwng wedi ei chanfod yn ddiogel

  • Cyhoeddwyd
Logo Heddlu Dyfed PowysFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys y newyddion ar wefan Twitter

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi fod gwraig a fu ar goll o'i chartref yn Y Trallwng wedi cael ei chanfod yn ddiogel.

Ddydd Mawrth, fe apeliodd yr heddlu ar i unrhyw un a oedd wedi ei gweld, neu a oedd â gwybodaeth allai arwain at ddod o hyd iddi, i gysylltu â nhw.

Fore Mercher am 06.31 yb, gwnaeth yr heddlu drydar eu bod wedi dod o hyd i'r wraig "yn ddiogel ac yn iach".

Aeth y neges ymlaen i ddiolch i bawb am eu cymorth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol