Ymgyrch Pallial: Arestio dyn arall

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Heddlu sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru yn y gorffennol wedi arestio dyn ar amheuaeth o ymosodiadau rhywiol.

Mae'r dyn 61 oed, gafodd ei arestio yng Nghaer ddydd Mercher, bellach wedi ei ryddhau ar fechniaeth.

Dywedodd yr Heddlu bod yr ymosodiadau honedig wedi digwydd i fachgen rhwng 1982 a 1985, pan oedd y bachgen rhwng 12 a 15 oed.

Dyma'r pedwerydd person i gael ei arestio gan yr Heddlu mewn cysylltiad ag Ymgyrch Pallial, sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Cafodd dyn o Wrecsam ei arestio a'i ryddhau ar fechniaeth ar 18fed o Orffennaf, tra bod dau ddyn arall o Suffolk a Chaerlŷr wedi eu harestio a'i rhyddhau yn gynharach yn y flwyddyn.