Mam yn ddi-euog o ddirmyg llys

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wnaeth ddiflannu gyda phedwar o'i phlant yn ystod dadl dros eu gofal gyda'i chyn-ŵr o Sbaen wedi ei chael yn ddieuog o ddirmyg llys.

Doedd neb yn gwybod ble roedd Ms Jones am bum niwrnod ym mis Hydref pan roedd hi i fod wedi gyrru ei phlant yn ôl i Sbaen.

Clywodd yr Uchel Lys ei bod hi'n "amhosibl" i Ms Jones ddychwelyd y plant oherwydd y ffordd roeddent yn ymddwyn.

Dywedodd cyfreithwyr ar ei rhan nad oedd ei hymddygiad yn ddirmyg llys bwriadol.

Fe wnaeth yr Uchel Lys apêl cyhoeddus am Ms Jones, o Lanelli, a'i phedwar o blant.

Ar y pryd cafodd Ms Jones ei rhybuddio y gallai wynebu cyfnod yn y carchar oherwydd ei bod wedi mynd yn erbyn gorchymyn Uchel Lys i ddychwelyd y plant i'w tad, Tomas Palacin Cambra, 53, sy'n aelod o'r fyddin Sbaenaidd.

Ddydd Mawrth dadleuodd y cyfreithwyr oedd yn cynrychioli'r Cyfreithiwr Cyffredinol Oliver Heald y dylai hi gael ei chosbi.

Ond penderfynodd y barnwr Syr James Munby fod Ms Jones yn dweud y gwir wrth ddweud nad oedd hi wedi mynd yn erbyn y gorchymyn yn fwriadol, ac fe wnaeth o ddyfarnu o'i phlaid ddydd Mercher.

Diflannodd y teulu o Lanelli ar 12 Hydref y llynedd - cafwyd hyd iddyn nhw yn y Coed Duon ger Caerffili bum niwrnod yn ddiweddarach.

Yr wythnos flaenorol, roedd y barnwr Uchel Lys Mr Ustus Hedley wedi dyfarnu bod Ms Jones wedi "cipio" y plant o Sbaen ble roeddent yng ngofal eu tad.