Gwahardd cynghorydd wedi honiadau o fwlio

  • Cyhoeddwyd
Patrick Heesom
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan Mr Heesom hawl i ofyn i'r Uchel Lys am ganiatad i apelio yn erbyn y penderfyniad

Mae cynghorydd o Sir y Fflint wedi cael ei wahardd am ddwy flwyddyn a hanner yn dilyn honiadau o fwlio ac aflonyddu.

Penderfynodd tribiwnlys fod y cynghorydd Patrick Heesom, oedd yn gwadu'r honiadau, wedi mynd yn groes i gôd ymddygiad y cyngor.

Eisteddodd y tribiwnlys am 58 diwrnod cyn gwneud penderfyniad oedd yn ystyried honiadau yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 2007 a 2009.

Yn 2010 adroddwyd fod Mr Heesom yn gallu hawlio hyd at £225 yr awr tuag at gostau cyfreithiol drwy'r cyngor.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r cyngor a'r tribiwnlys faint y mae'r ymchwiliad wedi ei gostio.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Daily Post, bydd Mr Heesom yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Panel Dyfarnu Cymru, corff annibynnol a sefydlwyd i asesu safonau aelodau etholedig cyrff cyhoeddus.

Dywed Cyngor Sir Y Fflint fod gan Mr Heesom yr hawl i ofyn i'r Uchel Lys am ganiatad i apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed ddydd Gwener.

"Pe bai'r cais i apelio yn cael ei ganiatau, gall ofyn i'r llys ei ailbenodi fel cynghorydd tan fod yr apêl yn cael ei glywed," meddai Gareth Owens, pennaeth gwasanaethau cyfreithiol a democrataidd y cyngor.

Mae hysbysiad penderfyniad y panel yn dweud eu bod wedi casglu fod Mr Heesom wedi "methu â chydymffurfio" â chôd ymddygiad y cyngor a bydd y rhesymau dros eu penderfyniad yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan yn y dyfodol agos.

Dyfarnodd y panel y dylai gael ei wahardd rhag bod neu ddyfod yn aelod o'r cyngor neu gyrff tebyg am ddwy flynedd a chwe mis.

Dywedodd y panel mai'r honiadau y gofynnwyd iddynt eu hystyried oedd bod Mr Heesom heb ddangos parch ac ystyriaeth i swyddogion y cyngor gan ddefnyddio "ymddygiad bwlio neu aflonyddu [harrassing]".

Yn 2010 newidiodd cynghorwyr Sir Y Fflint benderfyniad i beidio caniatau Mr Heesom, cyn arweinydd grŵp y 'New Independents', i gael cyfran o'i gostau cyfreithiol wedi eu talu.

Roedd y penderfyniad mewn egwyddor hwnnw yn ei ganiatau i hawlio hyd at £225 yr awr.

Ceisiodd am gymorth ariannol o dan bolisi indemniad y cyngor gan ei fod yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.