Cynnydd o 191% mewn mewnfuddsoddiad
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd o 191% wedi bod mewn buddsoddiadau mewnol i Gymru yn y flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaeth nifer y prosiectau sy'n cael buddsoddi yng Nghymru gynyddu o 23 i 67 yn ystod y flwyddyn ariannol 2012/13.
Mae'r ffigyrau yn cadarnhau honiad y Prif Weinidog Carwyn Jones fod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y prosiectau mewnfuddsoddi.
Dywedodd weinidogion y Deyrnas Unedig fod y ffigyrau yn "bleidlais o hyder yn nhalent, arbenigedd a sgiliau'r gweithlu".
191%
Cafodd y wybodaeth ddiweddaraf ei gyhoeddi gan Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI) - yr adran o lywodraeth Prydain sy'n gyfrifol am allforio a mewnfuddsoddi.
Yn ôl adroddiad blynyddol UKTI fe welodd Cymru gynnydd o 191% yn nifer y prosiectau o'i gymharu gyda chynnydd o 41% yng Ngogledd Iwerddon, 16% yn yr Alban a 10% yn Lloegr.
Mae'r prosiectau newydd yn hwb i Gymru - yn y gorffennol roedd llai o brosiectau y pen yn y wlad na'r Alban a Gogledd Iwerddon o dipyn ond mae'r ffigyrau newydd yn edrych yn llawer gwell.
Mae yna bellach 67 prosiect o'r fath yng Nghymru o'i gymharu â 111 yn yr Alban a 38 yng Ngogledd Iwerddon.
Dyw UKTI heb gyhoeddi manylion ynglŷn â faint o swyddi sydd wedi cael eu creu a'i diogelu yn sgil y buddsoddiadau ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod 2,605 swydd wedi eu creu a 4,442 wedi eu diogelu yn y flwyddyn ariannol 2012/13.
Er gwaetha'r cynnydd mawr yn nifer y prosiectau dim ond 4% yw cyfran Cymru o'r holl fewnfuddsoddiad i'r DU, sy'n llawer is na'r ffigwr gyfatebol ar gyfer yr 80au a'r 90au.
Yn y 90au roedd Cymru'n cael tua 15% o'r holl brosiectau mewnfuddsoddi i'r DU.
Mae'r nifer o swyddi sy'n cael eu creu yng Nghymru gan gwmnïau tramor yn llawer is na yn y blynyddoedd cyn yr argyfwng economaidd.
Rhwng 2005 a 2008 roedd y nifer cyfartalog o swyddi oedd yn cael eu creu gan fewnfuddsoddiad yn 5,600 - llawer uwch na'r flwyddyn ddiwethaf.
'Calonogol'
Dywedodd Carwyn Jones: "Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru yn galonogol iawn ac yn dangos gwelliant sylweddol yn y gyfran o fuddsoddiad o du allan y DU a ddaeth i Gymru yn 2012/13.
"Mae'r adroddiad yn dangos cynydd yn y nifer o brosiectau mewnfuddsoddi i Gymru - bron i 200% - ar y flwyddyn flaenorol, tra bod cynnydd o bron i 100% yn nifer y swyddi a grëwyd ac a ddiogelwyd yng Nghymru.
"Dydyn ni ddim yn hunanfodlon â'r gwelliant hwn, ac rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gydag arweinwyr a sefydliadau busnes i hyrwyddo Cymru a'r brand Cymreig ar draws y byd," ychwanegodd.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb: "Mae ffigurau heddiw yn galonogol iawn ac yn tanlinellu enw da Cymru fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer buddsoddi uniongyrchol o dramor.
"O'r ymrwymiad gan HDM Steel Pipe i sefydlu ffatri yng Nghaerdydd, i'r llyfr archebion cynyddol am adenydd Airbus ym Mrychdyn, mae'r twf mewn gweithgarwch yn y sector preifat yn cydbwyso economi Cymru ac yn helpu i'w wneud yn lle gwych i fuddsoddi."
Straeon perthnasol
- 13 Gorffennaf 2013
- 11 Mehefin 2013
- 13 Mehefin 2013