Isetholiad Môn: Wythnos i fynd
- Cyhoeddwyd

Mewn wythnos bydd etholwyr Môn yn mynd i'r blychau pleidleisio i ddewis Aelod Cynulliad newydd i olynu Ieuan Wyn Jones.
Mae'r sedd wedi bod yn nwylo Plaid Cymru ers yr etholiad cyntaf yn 1999.
Ond mae'r sedd seneddol wedi bod yn nwylo pob un o'r pedwar prif blaid yng Nghymru, gyda Llafur yn dal eu gafael ar y sedd yn etholiad cyffredinol San Steffan yn 2010.
Mae Plaid Cymru wedi dewis y newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth fel eu hymgeisydd.
Am flynyddoedd bu'n dilyn y gwleidyddion, ond yn ystod yr ymgyrch hon y wasg sydd wedi bod yn ei ddilyn a'i holi ef.
Wylfa B
Etholiad Plaid Cymru yw hon i'w cholli.
Ond dyw'r ymgyrch ddim heb anhawster, gyda'r angen i egluro cefnogaeth i ail atomfa yn Wylfa tra bod y blaid yn gwrthwynebu ynni niwclear.
"Mae'r Wylfa, heb os, yn cynnig cyfleoedd economaidd i'r ynys," meddai Mr ap Iorwerth.
"A phan dwi'n mynd i'r Wylfa, fel y gwnes i ychydig ddyddiau'n ôl a siarad efo prentisiaid ifanc sy'n gobeithio gweld y datblygiad hwn yn rhoi swyddi i gynnal teulu am ddegawdau i ddod, alla' i ddim edrych i'w llygaid nhw a dweud dwi ddim am i chi gael y cyfleoedd yna."
'Sylfaen ein cymdeithas'
Am yr eildro yn ystod yr ymgyrch, daeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones i Gaergybi i ymuno ag ymgyrch Tal Michael dros Lafur.
Fe wnaeth Mr Michael sefyll yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu yn y gogledd gan golli yn annisgwyl. Mae ei fryd ef ar drawsnewid economi'r ynys.
"Mae cael mwy o swyddi yn hynod o bwysig, dyna sylfaen ein cymdeithas ni ydi fod pawb yn gallu gwneud rhywbeth, " meddai Mr Michael.
"A be 'dan ni wedi ei weld gan y llywodraeth yn San Steffan ydi diffyg gwneud yn siŵr fod gwaith i bobl.
"A beth yw ein neges ni yw ein bod yn mynd i weithio yn galed i gael y swyddi yna.
'Colli'r iaith'
Yn yr etholiadau lleol diweddar yn Lloegr fe gafodd plaid Nigel Farage UKIP gryn lwyddiant.
Eu hymgeisydd nhw ym Môn ydi Nathan Gill.
Yn ôl Gwyn Pritchard, o UKIP, mae'r isetholiad yn mynd i fod yn llinyn mesur o dwf y blaid yng Nghymru.
"Mae'n bwysig cael gwaith ar yr ynys. Be' sydd yn digwydd rwan - does yna ddim gwaith a phan mae hogiau ifanc yn mynd o 'ma, mae'r iaith Gymraeg yn mynd efo nhw - da ni'n colli'r iaith Gymraeg a 'dyn nhw ddim yn dod yn ôl."
Ynys ynni
Mae Steve Churchman yn bostfeistr yng Ngarndolbenmaen ac yn sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywed llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Christine Humphreys, fod diweithdra yn agosáu at lefel yr 1980au ar Ynys Môn ac mai creu swyddi, felly, yw nod ei phlaid.
"Un o'r pethau mae Steve yn credu'n gryf iawn ynddo yw'r syniad yma o Ynys Môn fel ynys ynni ble rydym yn cynhyrchu ynni gwahanol fathau o ynni."
'Dewis'
Am wyth mlynedd bu'r Ceidwadwyr yn cynrychioli Ynys Môn yn San Steffan. Neil Fairlamb, rheithor Biwmares, sydd yn gorfod amddiffyn record y glymblaid yn San Steffan mewn etholiad ar gyfer y cynulliad cenedlaethol.
"Mae o'n ddewis yn fy marn i - mwy o hunanddibyniaeth, mwy o agwedd fentrus yn ein bywydau, neu ddibyniaeth ar y wladwriaeth neu'r llywodraeth - ac mae gan y Ceidwadwyr y polisi o gefnogi pobl mewn busnes," meddai Mr Fairlamb.
Argyfwng y banciau
Kathrine Jones yw ymgeisydd y Blaid Lafur Sosialaidd yn yr isetholiad.
Mae hi'n dweud bod argyfwng y banciau wedi achosi holl broblemau economaidd Ynys Môn.
"Mae'r holl bleidiau eraill, ar wahân i'r Blaid Lafur Sosialaidd, yn cefnogi Wylfa B ac maen nhw'n son am swyddi - ond rydym ni'n dweud na allwch chi guddio y tu ôl i Wylfa B er mwyn creu swyddi, mae'r ateb i'w gael mewn sosialaeth, " meddai Ms Jones
Ar hyd y blynyddoedd mae pleidiau o wahanol liwiau wedi cynrychioli'r ynys yn San Steffan, tra bod Plaid Cymru wedi ei chynrychioli yn y cynulliad ers 1999.
Ar y llaw arall, mae'r garfan annibynnol wedi bod yn llais cryf ar y cyngor sir, rhywbeth sy'n gwneud y gwaith o broffwydo etholaeth fel hon rhywfaint yn anoddach.
Gellir gweld rhestr gyflawn o'r ymgeiswyr yma.
Straeon perthnasol
- 5 Gorffennaf 2013
- 26 Mehefin 2013