TNS allan o Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl colli o 1-0 yn unig ar faes Legia Warsaw yng Ngwlad Pwyl nos Fercher.
Roedden nhw'n chwarae yn ail gymal yr ail rownd ragbrofol ac fe sicrhaodd gôl gan Vladimir Dvalishvili bod y Pwyliaid yn mynd â hi 4-1 ar gyfanswm goliau.
Roedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru wedi amddiffyn yn 'styfnig, gyda'r gôl-geidwad Paul Harrison yn serennu.
Ond doedd ochr Craig Harrison ddim yn edrych fel petai nhw am wyrdroi'r golled o 3-1 ar ôl y cymal cynta' yng Nghymru.
Roedd y rheolwr wedi rhybuddio ei chwaraewyr i ddisgwyl "twrw mawr" yn Warsaw, a dyna'n union oedd yn eu disgwyl.
Roedd y clwb o Gymru dan bwysau o'r munudau agoriadol wrth i Legia elwa o fylchau ar y cae.
Bu'n rhaid i Harrison fynd i'w waith wedi pum munud i ymateb i ergyd am gôl gan Miroslav Radovic.
Aeth y Seintiau yn agos wedyn, wrth i Michael Wilde fethu croesiad gan Chris Marriott o drwch blewyn.
Ond am y rhan fwyaf o'r gêm, bu'n rhaid i TNS amddiffyn yn ffyrnig, gyda Legia Warsaw yn rheoli i'r diwedd.
Nos Iau bydd Prestatyn yn herio Rijeka yn ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa yn Y Rhyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2013