Gweithiwr asbestos wedi marw yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau i farwolaeth gweithiwr mewn ysgol yn sir Caerffili, ble mae gwaith yn cael ei gynnal i dynnu asbestos o'r adeilad.
Cadarnhaodd Heddlu Gwent fod y dyn 26 oed o Abertyleri wedi cael ei ddarganfod yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn ddydd Gwener.
Roedd disgwyl i'r ysgol ailagor ym mis Medi ar ôl bod ynghau oherwydd pryderon am asbestos.
Yn ôl yr heddlu, does dim eglurhad am y farwolaeth ar hyn o bryd.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn ymchwilio.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal ddydd Iau a bydd cwest yn cael ei agor a'i ohirio dros y dyddiau nesa'.
Ymchwiliad ar y cyd
Yn ôl llefarydd ar ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:
"Gallwn gadarnhau ein bod yn gweithio gyda Heddlu Gwent ar ymchwiliad ar y cyd i farwolaeth gweithiwr 26 oed yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar ddydd Gwener, Gorffennaf 19.
"Yr heddlu sy'n arwain yr ymchwiliad. Mae'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd beth oedd achos y farwolaeth, a byddwn yn gwybod mwy ar ôl archwiliad post mortem."
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerffili ac Ysgol Uwchradd Cwmcarn:
"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac rydym yn meddwl am ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu ar yr adeg anodd hwn.
"Rydyn yn disgwyl rhagor o wybodaeth gan Swyddfa'r Crwner am achos y farwolaeth, felly byddai'n amhriodol gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."
Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau wedi i adroddiad gan y cyngor ddod i'r casgliad y gallai'r asbestos fod yn berygl i iechyd pobl.
Ond er i adroddiad diweddarach gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gadarnhau bod yna asbestos ar y safle, dywedodd nad oedd yn risg ar hyn o bryd am ei fod mewn adeiladau eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012