Fire Island yn cau

gloddestwyr
Image caption Agorodd Fire Island wyth mis yn ôl

Mae cwmni sy'n berchen ar nifer o fariau yng Nghaerdydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Roedd Beatbox Bar Limited yn rhedeg Fire Island, Ten Feet Tall a Buffalo - lleoliadau sy'n boblogaidd gyda phobl ifanc y ddinas.

Mae Fire Island, oedd ond wedi agor ers wyth mis ac oedd wedi derbyn buddsoddiad o £250,000 gan Cyllid Cymru, wedi cael ei gau nes i brynwr gael ei ddarganfod ond mae'r ddau far arall yn parhau i fod ar agor.

Mae'n debyg mai cwymp mewn incwm gaeaf diwethaf wnaeth arwain at drafferthion i'r cwmni.

Dywedodd Daniel Plant, un o'r gweinyddwyr sy'n gyfrifol am werthu'r safleoedd: "Rydym yn bwriadu gwerthu'r busnesau a'r asedau ac rydym eisoes mewn trafodaethau gyda nifer o brynwyr posibl."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.