Dau yn euog o lofruddio'r ffermwr Llywelyn Thomas
- Cyhoeddwyd

Yn yr ystod yr achos fe feiodd Frankie Parker a Gary Smith ei gilydd am farwolaeth Llywelyn Thomas
Mae dau ddyn oedd wedi gwadu bwrw pensiynwr i farwolaeth wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth ac o ladrata.
Cafwyd Gary Smith, 21, a'i nai Frankie Parker, 26, yn euog o ladd Llywelyn Thomas, 76, yn ei gartref yn Chittering, Sir Caergrawnt.
Yn ystod yr achos roedd y ddau wedi beio ei gilydd am yr hyn ddigwyddodd ar Ragfyr 17 y llynedd.
Roedd Llywelyn Thomas yn dod yn wreiddiol o dde Cymru ac wedi bod yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Ond fe symudodd i Loegr ar ôl ymddeol.
Yn y llys fe gyfaddefodd Frankie Parker y cyhuddiad o ladrata, ond fe wadodd Gary Smith y cyhuddiad.
Fe ddywedodd Smith ei fod wedi ceisio atal ei nai rhag lladd Mr Thomas.
Bydd y ddau ddyn yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011