Darganfod gwerth £10,000 o gyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi canfod gwerth £10,000 o gyffuriau yn Nhreganna.
Fe ddaethon nhw o hyd i'r cyffuriau ar ôl stopio car BMW nos Fawrth. Yn y cerbyd roedd 5.5 owns o heroin ac un owns o crac cocên.
Daeth y swyddogion o hyd i fwy o gyffuriau yn ei dŷ yng Nglan yr Afon yn ogystal ag arian ac offer pwyso.
Mae'r dyn 21 oed wedi ei arestio a'i gyhuddo o fod gyda chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad i gyflenwi.
Dywedodd un o swyddogion yr heddlu sydd wedi bod yn delio gyda'r achos, Ian Morgan o Heddlu'r de:
"Dydyn ni ddim yn mynd i oddef cyffuriau yn ein cymunedau ac rydym yn targedu yn gyson y rhai hynny rydyn ni yn credu sydd yn cyflenwi neu sydd gyda chyffuriau yn eu meddiant."
Dywedodd hefyd ei bod yn gweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn ceisio annog unigolion i roi'r gorau i gymryd cyffuriau.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y defnydd neu'r gwerthiant o gyffuriau.
Fe ellir cysylltu gyda'r heddlu ar y rhif 101 neu Taclo'r Tacle trwy ffonio 0800 555 111.