Brayford yn arwyddo i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
John BrayfordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae cynnig clwb Caerdydd i arwyddo John Brayford wedi ei dderbyn

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r amddiffynwr John Brayford o dîm Derby County.

Mae adroddiadau yn awgrymu bod Caerdydd wedi talu tua £1.5 miliwn am y chwaraewr.

Ym mis Mehefin fe wrthododd Derby County gynnig arall gan Wigan Athletic oedd tua £1 miliwn.

Credir fod West Ham hefyd wedi bod gyda diddordeb prynu'r chwaraewr 25 oed ond Caerdydd enillodd y frwydr.

Mae Brayford wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen i ymuno gyda'r Adar Gleision.

"Pan glywais fod diddordeb gan Gaerdydd i fy arwyddo roedd gen i ddiddordeb mawr, yn enwedig i gael cyfle i brofi fy sgiliau yn yr Uwch Gynghrair ac ar y lefel uchaf," meddai.

"Mae Derby yn glwb pwysig i mi, ond doeddwn i methu anwybyddu'r cyfle yma."