Ardal Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
- Cyhoeddwyd
Dyma fap o ardal yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych eleni yn dangos lleoliadau pwysig yr ŵyl gyda gwybodaeth isod am sut i gyrraedd y Maes.

Mae'r trefnwyr yn eich annog i ddilyn yr arwyddion a'r cyfarwyddiadau er mwyn osgoi tagfeydd a thrafferthion.
Mewn car
Wrth deithio o'r gogledd orllewin, dilynwch yr A55, a'i gadael yng nghyffordd 26, Parc Busnes Llanelwy. Dilynwch Ffordd Dinbych (Isaf) i Drefnant, gan droi i'r dde ar yr A525 yn Nhrefnant. Yna, trowch i'r chwith i'r A541 yn y goleuadau traffig yn Nhrefnant, a theithiwch ymlaen i Fodfari, cyn troi i'r dde yng nghyffordd Aberchwiler. Teithiwch i Landyrnog ar y B5429 cyn troi i'r dde i Ffordd Eglwys Wen, a throi i'r dde i mewn i'r maes parcio yn syth ar ôl pasio'r Maes.
Os ydych yn dod o Wrecsam, ardal y Gororau neu ganolbarth Cymru, dilynwch yr A541 i Ddinbych drwy'r Wyddgrug ar ôl gadael yr A483, neu gallwch deithio i Rhuthun ar yr A525 a dilyn y ffordd i Ddinbych. Yna, trowch i'r dde ar gylchfan Parc Myddleton i ymuno gyda Ffordd Eglwys Wen, cyn troi i'r chwith i'r maes parcio gyferbyn â Fferm Kilford.
Os ydych yn teithio o dde Gwynedd neu Feirionnydd, gadewch yr A5 ac ymuno gyda'r A494 yn nhroead Ty'n Cefn, a dilynwch y ffordd hon i Ruthun, cyn dilyn yr A525 i Ddinbych. Yna, trowch i'r dde ar gylchfan Parc Myddleton i ymuno gyda Ffordd Eglwys Wen, cyn troi i'r chwith i'r maes parcio gyferbyn â Fferm Kilford.
Os ydych yn teithio'n lleol o fewn y gogledd ddwyrain, gadewch yr A55 yng nghyffordd 31 (Caerwys). Dilynwch y B5122 drwy Caerwys, ac yna troi i'r dde i ymuno â'r A541 a dilyn y ffordd hon i Ddinbych.
Dylai ymwelwyr anabl gyda bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i'r maes parcio anabl.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Bydd bysiau rheolaidd yn rhedeg o orsafoedd trenau Wrecsam a Rhyl, felly bydd yn hawdd i unrhyw un sydd am ddod i'r Eisteddfod ar y trên. Bydd bysiau gwennol hefyd yn rhedeg rhwng tref Dinbych a'r Maes trwy gydol yr wythnos.
Mae amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus a bysiau gwennol yr Eisteddfod ar gael fan hyn (pdf)
Mae mwy o fanylion ar sut i gyrraedd y Maes ar gael ar wefan yr Eisteddfod.