Gwilym Owen: anhapus gydag ymateb BBC
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-bennaeth newyddion BBC Cymru, Gwilym Owen, yn bwriadu cysylltu ag uned cwynion golygyddol y Gorfforaeth ar ôl eitem ar raglen Tudur Owen ar Radio Cymru.
Mae Gwilym Owen yn dweud iddo gael ei sarhau ar y rhaglen a'i fod yn anhapus gydag ymateb y BBC sy'n gwrthod darlledu ymddiheuriad iddo.
Mewn datganiad dywedodd BBC Cymru eu bod wedi ystyried ei sylwadau a'u bod wedi ymddiheuro iddo yn ysgrifenedig am rai elfennau o'r eitem:
"Rydyn ni wedi ymddiheuro yn rhannol yn sgil y gŵyn ac wedi gwneud hynny yn ysgrifenedig i Gwilym Owen gan ein bod yn cytuno na ddylid bod wedi cynnwys rhai elfennau o'r eitem dan sylw."
"Ond nid ydym yn cytuno y dylid rhoi ymddiheuriad ar yr awyr."
"Serch hynny, dan drefn gwynion swyddogol y BBC gall achwynwyr fynd â chwynion ymhellach gan wneud cais iddyn nhw gael eu hystyried yn annibynnol gan yr Uned Cwynion Golygyddol ac mae hyn yn opsiwn os ydi achwynydd yn anfodlon gyda'r ymateb."
Daeth y gwyn yn dilyn rhifyn o Bron Meirion ar raglen Tudur Owen.