74% yn croesawu'r Gemau Olympaidd yn ôl
- Cyhoeddwyd

Byddai dros 70% o bobl yn croesawu'r Gemau Olympaidd yn ôl i Brydain yn y dyfodol, ond dim ond 20% sydd wedi gweld effaith y Gemau ar yr economi neu eu hardal leol yn ôl pôl newydd.
Mae pôl BBC o bobl Cymru a Lloegr wedi darganfod bod y mwyafrif yn teimlo bod y Gemau wedi bod gwerth y buddsoddiad, ond dim ond cyfran fach sydd wedi gweld effaith uniongyrchol y Gemau yn 2012.
Mae'r canlyniadau yn dangos bod 74% o'r bobl a ofynnwyd eisiau gweld y Gemau Olympaidd yn dychwelyd i Brydain yn eu bywydau nhw, ac mae 69% yn credu bod y Gemau wedi rhoi gwerth am arian.
Ond mae'r effaith leol ychydig yn wahanol. Dim ond 32% sydd wedi gweld effaith ar gyfleusterau chwaraeon yn eu hardal, ac mae llai na chwarter wedi gweld effaith bositif ar yr economi.
Teimladau positif
Er bod y pôl yn dangos teimladau positif gan y mwyafrif tuag at Llundain 2012, mae'n dangos nad ydy'r rhan fwyaf wedi teimlo effaith hirdymor.
Roedd llai 'na 21% o bobl yn teimlo bod y Gemau wedi arwain at wella gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardaloedd, a dywedodd 88% nad oedd y Gemau wedi newid faint o ymarfer corff yr oedden nhw'n ei wneud.
Cyn y Gemau, roedd gobaith y byddai'r digwyddiad yn sbarduno mwy o bobl i ddechrau gwneud mwy o ymarfer corff drwy ymuno a chlybiau a rhoi cynnig ar chwaraeon newydd.
Ond dim ond 11% o'r 150 o Gymry a gafodd eu holi dywedodd eu bod wedi cynyddu faint o ymarfer corff maen nhw'n ei wneud ers y Gemau.
'Cynnydd mawr'
Ond mae un clwb athletau wedi gweld newid mawr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Clwb Athletau Amatur Caerdydd wedi cael niferoedd mawr o bobl ifanc yn ymuno, o ganlyniad i'r Gemau Olympaidd yn ôl un aelod:
"Mae cynnydd mawr iawn wedi bod, pobl iau rhan fwyaf. Mae'r cynnydd mor fawr bod rhestr aros i ymuno a'r clwb o 40 o blant," meddai Ann Cooper, ysgrifenyddes Clwb Athletau Amatur Caerdydd.
"Mae rhieni wedi gweld y gemau, gweld bod gan eu plant rhyw botensial, a'i weld fel cyfle iddyn nhw gael mwy o ymarfer corff. Ond mae llawer yn dweud bod cael bod yn rhan o glwb yn un o'r atyniadau mawr hefyd."
"Byddai unrhyw un sy'n dod i weld un o'r sesiynau hyfforddi ar nos Lun neu nos Iau yn medru gweld yr effaith mae'r Gemau wedi cael yma."
Mae Ms Cooper yn credu bod y Gemau wedi bod gwerth y buddsoddiad:
"Yn bendant oeddent. Mae'r Gemau wedi adnewyddu byd chwaraeon yn ei gyfanrwydd, a byddwn i'n bendant yn cefnogi cynnal y Gemau yma eto."
"Gyda Gemau'r Gymanwlad yn dod i fyny nesaf, dylai'r diddordeb barhau."
Ymgyrch newydd
Yn sgil rhybudd diweddar bod toriadau yn lleihau effaith parhaol y gemau, mae un ymgyrch newydd yn ceisio sicrhau bod gwaddol y gemau yn para yng Nghymru a dros Brydain.
Cafodd ymgyrch 'Cadwch y Ffydd' ei lansio ym mis Gorffennaf, a'r bwriad yw casglu £1 miliwn i ddatblygiad chwaraeon.
Mae Sported, sy'n gyfrifol am yr ymgyrch yn dweud bod mentrau chwaraeon yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc roi cynnig ar chwaraeon, a hefyd yn helpu atal troseddu, defnyddio cyffuriau ac ymuno gyda gangiau.
Yn ôl Sported mae 120 o fentrau chwaraeon yng Nghymru yn elwa o'r gwaith, gan gynnwys Clwb Bocsio St Joseph's yng Nghasnewydd, sydd yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Dywedodd sefydlydd y clwb bod chwaraeon yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau plant:
"O fewn Pillgwenlli mae'r 'Front Line', lle mae cyffuriau yn cael eu gwerthu."
"Mae rhai o'r hyfforddwyr yn mynd yno yn aml i siarad gyda phobl ifanc, a'u hannog a'u perswadio i roi cynnig ar focsio a newid eu bywydau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012