Prestatyn allan o Gynghrair Ewropa

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair Ewropa
Disgrifiad o’r llun,
Colli o 3-0 oedd hanes Prestatyn yn y Rhyl.

Mae Prestatyn wedi disgyn allan o Gynghrair Ewropa ar ôl colli ail gymal eu gem yn erbyn Rijeka o 3-0 nos Iau, a cholli o 8-0 ar gyfanswm goliau.

Roedd Rijeka ar y blaen o 5-0 wedi'r cymal cyntaf yng Nghroatia, ac aethon nhw ymhellach ar y blaen wedi gôl gan Ivan Mocinic wedi hanner awr.

Ychwanegodd Ivan Boras ail yn fuan wedyn, cyn i Goran Mujanovic sgorio yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn y Rhyl.

Bydd Rijeka yn mynd ymlaen i wynebu Olimpija Ljubljana neu MSK Zilina yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Dywedodd rheolwr a chwaraewr Prestatyn, Neil Gibson:

"Rydym ni wedi gwella yn fawr ers wythnos diwethaf."

"Roedd y ddwy gôl yn yr hanner cyntaf yn siomedig ond dwi'n meddwl ein bod ni wedi gwella llawer iawn ers wythnos diwethaf."

Abertawe

Daeth cadarnhad nos Iau y bydd Abertawe yn chwarae Malmo yn eu gem gyntaf nhw yn y gystadleuaeth, wedi i'r tîm o Sweden guro Hibernian o 7-0, a 9-0 ar gyfanswm goliau.

Bydd yr Elyrch yn croesawu Malmo i'r Liberty ar Awst 1af, cyn teithio i Sweden am yr ail gymal wythnos yn ddiweddarach.