Mwy o fusnesau yn cael eu sefydlu
- Cyhoeddwyd

Mae cynnydd o 20% wedi bod yn nifer y cwmnïau cyfyngedig gafodd eu sefydlu yng Nghymru'r llynedd yn ôl ystadegau sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Mae'r cynnydd yma yn uwch yng Nghymru nac yn weddill Prydain.
Ond mae mwy o gwmnïau wedi mynd i'r wal yng Nghymru tra bod y nifer wedi gostwng ym Mhrydain.
Dangosodd ystadegau Tŷ'r Cwmnïau ers dechrau'r flwyddyn bod 136 o gwmniau newydd wedi eu sefydlu.
Mae'r Athro Dylan Jones Evans yn gyfarwyddwr 'Wales Fast Growth 50' sydd yn monitro cwmnïau sydd yn tyfu.
Dywed ef y gallai'r cynnydd fod wedi digwydd oherwydd bod cyflogwyr sydd yn colli eu swyddi yn penderfynu sefydlu busnesau eu hunain:
"Mae pobl yn dechrau edrych ar fentergarwch fel dewis amgen positif yn hytrach na gweithio ar gyfer rhywun arall.
"Mae diweithdra wedi cynyddu ac mae pobl yn edrych yn ofalus ar beth yw eu hopsiynau. Yr hyn rydyn ni yn tueddu i weld ydy pobl yng nghanol eu 30au a 40au cynnar yn dechrau busnes a rhain yw'r bobl sydd yn colli eu gwaith."
Ddydd Iau dangosodd ffigyrau fod yr economi wedi tyfu 0.6% yn y tri mis hyd at fis Mehefin.
Mae'r canlyniadau'n golygu fod yr economi wedi adennill bron hanner yr hyn a gollwyd, pan grebachodd yr economi o 7.2% yn ystod y dirwasgiad yn 2008-09.
Straeon perthnasol
- 25 Gorffennaf 2013
- 20 Mai 2013