Enwi ail berson fu farw wedi damwain car

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw a gafodd ei lladd wedi damwain car ar yr A40 wedi cael ei henwi fel Mary Marshall.

Roedd hi'n 73 oed ac yn dod o Grug Hywel ym Mhowys.

Cafodd un o yrrwyr y cerbydau, David Marshall oedd yn 78 oed ei ladd yn y ddamwain.

Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Sadwrn Gorffennaf 20 rhwng dau gar sef Ford Ka llwyd a Volkswagen Golf llwyd oedd yn teithio i'r un cyfeiriad rhwng pentref Rhaglan yn Sir Fynwy a Y Fenni.

Arestio

Mae gyrrwr y car Volkswagen Golf wedi ei arestio ar amheuaeth o ladd trwy yrru yn beryglus ac wedi ei rhyddhau ar fechniaeth tra bod yr heddlu yn cynnal ymholiadau.

Mae'r heddlu yn parhau apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw yn enwedig gyrrwr fan Ford Transit neu gerbyd tebyg. Credir bod y gyrrwr hwnnw yn teithio i'r un cyfeiriad pan ddigwyddodd y ddamwain.

Y rhif i gysylltu gyda'r heddlu yw 101 gan roi'r dyfynnod 608 20/7/13.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol