Gyrrwr wedi marw yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw wedi i'w gar fynd dros yr ochr clawdd mewn maes parcio yn Sir Ddinbych, yn ôl yr heddlu.

Cafodd marwolaeth y dyn ei gofnodi yn y fan a'r lle, ar fynydd Moel Famau, wedi i'r heddlu gael eu galw ychydig wedi 9pm ddydd Iau.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw dystion i'r digwyddiad eu ffonio ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod P120537.

Yn ogystal â'r heddlu fe wnaeth ambiwlans a'r frigâd dan fynychu'r safle, ac fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru anfon dau griw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol