Aberystwyth yn camsillafu 'myfyrwyr'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae saith o'r arwyddion yn cynnwys camgymeriadau iaith

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi camsillafu'r gair 'myfyrwyr' ar arwydd ar brif gampws y brifysgol.

Ar y gylchfan ger y Ganolfan Gelfyddydau mae'r arwydd ac mae'n nodi cyfeiriad y 'Ganolfan Groesawu Myfywyr'.

Yn ôl adroddiadau mae arwydd ar gyfer Adeilad Edward Llwyd wedi cael ei gamsillafu fel 'Adeilad Edward Llywd', ond nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau.

Dywedodd y brifysgol eu bod yn y broses o gyflwyno arwyddion newydd ar gampws Penglais, gyda chyfanswm o 125 yn cael eu codi.

Meddai'r datganiad: "Rydym wedi cael ein hysbysu bod chwech o'r arwyddion yn cynnwys camgymeriadau sillafu a bod un yn cynnwys cyfieithiad anghywir.

"Mae nifer o'r rhain eisoes wedi cael eu cywiro.

"Mae'r brifysgol yn cymryd camau i gywiro'r gwallau eraill cyn gynted â phosibl ac wedi tynnu'r arwyddion i lawr yn y cyfamser.

"Mae trefniadau'n cael eu gwneud i ychwanegu'r gair Cymraeg am 'postcode' i'r arwyddion, cyn gynted a bod hynny'n ymarferol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol