Oriel Môn yn dod â Fenis i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa newydd yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, yn dod â gweithiau gan Monet, Canaletto a Guardi i'r ynys am y tro cyntaf.
Mae 'Golau ar y Gamlas - Kyffin Williams a Fenis' yn arddangosfa arbennig i ddathlu pumed pen-blwydd Oriel Kyffin Williams.
Mae'r arddangosfa yn ystyried y berthynas rhwng yr artist o Fôn, Syr Kyffin Williams, a'r ddinas Eidalaidd.
Mae sawl llun o Fenis gan Syr Kyffin o gasgliadau preifat wedi eu cynnwys yn yr arddangosfa.
Yn ogystal mae'n cynnwys gweithiau o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, y National Gallery ac Amgueddfa Cymru gan artistiaid roedd Syr Kyffin yn eu hedmygu ac a ddylanwadodd arno.
Ymhlith y rhain mae gweithiau gan Monet, Canaletto, Turner, Guardi, Walter Sickert a Frank Brangwyn.
Dywedodd John Smith, swyddog gwasanaethau technegol yn Oriel Ynys Môn sydd hefyd yn gyd-awdur llyfr am Syr Kyffin, fod yr artist wedi teithio'n helaeth yn yr Eidal.
Ymwelodd â Fenis am y tro cyntaf yn 1950 pan yn 32 ac am y tro olaf yn 2004 pan roedd yn 86.
"Cafodd ei ysbrydoli'n fawr gan Fenis, yn enwedig y golau," meddai Mr Smith.
"Nid yw'r lliwiau'n llachar ond yn hytrach mae'r golau yn ei luniau yn berlaidd.
"Roedd yn edmygu artistiaid fel Monet a Sickert ond nid oedd yn copïo eu harddul, roedd ganddo arddul eiconig ei hun."
Dywedodd Mr Smith y byddai Syr Kyffin wedi bod yn "hynod falch" o weld yr arddangosfa.
"Mae'n fraint i ni yng ngogledd Cymru i gael gweld y fath luniau," meddai.
Dywedodd Ieuan Williams, arweinydd Cyngor Sir Fôn: "Fel cyngor, rydym yn hynod falch o ddod â'r arddangosfa i'r ynys.
"Mae'r ffaith ein bod wedi gallu denu gwaith rhyngwladol sydd heb ei weld o'r blaen mewn oriel gyhoeddus yng ngogledd Cymru i Oriel Ynys Môn yn dyst i uchelgais a safon yr oriel.
"Rwyf yn annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn i weld y lluniau gwych yma tra eu bod yma ym Môn."
Mae'r arddangosfa yn Oriel Ynys Môn rhwng 20 Gorffennaf 2013 a 2 Chwefror 2014.
Straeon perthnasol
- 25 Hydref 2012
- 30 Ionawr 2012