Cyfrinachau parc Bryncir

  • Cyhoeddwyd
Bryncir
Disgrifiad o’r llun,
Mae adfeilion plasdy bellach ar y safle lle'r oedd y parc ceirw'n arfer bod

Mae parc ceirw hynafol a allai fod wedi cael ei ddefnyddio gan dywysogion o'r canol oesoedd ar gyfer hela wedi ei ddarganfod yng Ngwynedd.

Yn ôl archeolegwyr mae lluniau o stad Bryncir a gymerwyd o'r awyr yn dilyn cloddio'r flwyddyn ddiwethaf, yn awgrymu hynny.

Maent yn credu bod y parc yn dyddio nôl i adeg Llywelyn Fawr, o'r 13eg ganrif.

Bydd arbenigwyr a myfyrwyr yn dychwelyd ym mis Awst er mwyn gwneud mwy o waith ar y safle.

Maen nhw'n gobeithio y daw mwy o hanes yr ardal i'r amlwg wedi iddynt wneud gwaith ar blas y stad.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Dyw hi ddim yn amlwg mai parc ar gyfer hela oedd hwn yn arfer bod

Parc

Siâp hirgrwn y lleoliad ynghyd a thystiolaeth o gloddiau a ffosydd wnaeth arwain y tîm i ddamcaniaethu mai parc hela oedd o'n arfer bod.

Mae'n debyg mai tarddiad yr enw Bryncir yw "Bryn Ceirw" - cliw arall efallai?

Mark Baker yw rheolwr y prosiect ac mae'n credu bod bodolaeth y parc yn awgrymu gallu diplomataidd Llywelyn Fawr.

"Mae cyn barc ceirw brenhinol y tywysogion Cymreig, sydd wedi ei leoli o fewn tirwedd llawer mwy a gafodd ei lunio ar gyfer hela a chwaraeon, yn rhoi syniad i ni o faint sydd i'w ddysgu am fywydau'r tywysogion.

"Rhyw siâp wy sydd ar y cae, gyda stribyn cul lle'r oedd y ceirw'n cael eu gofalu amdanynt, a darn lletach lle roedden nhw'n cael eu rhyddhau ar gyfer helfeydd.

"Mae hwn yn debyg i'r parciau brenhinol sydd wedi cael eu darganfod mewn mannau eraill yn Ewrop - ond rydym yn gwybod eisoes fod Llewelyn Fawr wedi symud ei lys i Griccieth o gwmpas 1230, felly mae'n hŷn na dylanwad y gymdeithas Eingl-Norman yng Nghymru.

"Y gobaith yw y cawn ni syniad o sut wnaeth cyfandir Ewrop ddylanwadu ar Gymru cyn i Loegr gael siawns i wneud, wedi i ni ddechrau cloddio."

Llywelyn Fawr

Ganwyd Llywelyn Fawr yn Llywelyn ap Iorwerth - cafodd ei enw am ei lwyddiant yn arwain Gwynedd ac am ei ymdrechion i uno'r Cymry.

Adeiladodd Llywelyn gestyll o ddyluniad nodweddiadol Gymreig yng Nghriccieth, Castell y Bere a Dolwyddelan ac mae wedi ei anfarwoli yn y ddrama Siwan gan Saunders Lewis.

Dywedodd Mr Baker: "Rydym ni'n gwybod llawer am Llywelyn y rhyfelwr ond mae'r darganfyddiad hwn yn pwysleisio ei allu fel Llywelyn y diplomydd.

"Byddai parc fel hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer diddanu gwestai a chreu cynghreiriau. Ry'n ni'n gobeithio y gwneith y cloddio ym mis Awst helpu i ddweud mwy wrthon ni am sut roedd hynny'n cael ei wneud, ac am bwy oedd yma."

Mae doethuriaeth Mr Baker yn cael ei gyllido gan Gymdeithas Haneswyr Pensaernïol Prydain Fawr, ac mae'n canolbwyntio'n bennaf ar geisio darganfod cyfrinachau stad Bryncir.

Bydd y cloddio'n parhau drwy gydol Awst a bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ar Awst 30 i roi cyfle i'r cyhoedd gael dysgu am y darganfyddiadau.

Hefyd gan y BBC