Cyngor yn trafod trwyddedau gwerthu alcohol yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd cynnig i gyfyngu ar y nifer o dafarndai, clybiau nos, bwytai a siopau trwyddedig yn Abertawe yn cael ei drafod gan y cyngor.
Mae 'na bryderon bod gormod o lefydd i brynu alcohol yng nghanol y ddinas, a bod hynny yn achosi lefelau uchel o droseddu.
Bwriad y cynllun yw gorfodi pobl sy'n gwneud cais am drwydded gwerthu alcohol newydd brofi i bwyllgor y cyngor na fyddai rhoi trwydded iddynt yn cael effaith negyddol ar yr ardal.
Yn ôl y cyngor, cafodd 873 o droseddau eu cofnodi yn 2011/2012 yn ardal Stryd y Gwynt yn unig. Roedd 360 o'r rhain yn droseddau treisgar.
Hefyd roedd 384 o gwynion i'r cyngor am leoliadau trwyddedig yn ward y Castell, gyda 57% yn ymwneud â Stryd y Gwynt.
Mwy croesawgar
Os byddai'r polisi yn cael ei gymeradwyo, byddai mannau o gwmpas Stryd y Gwynt, y Stryd Fawr, Ffordd y Brenin a Stryd y Coleg yn cael eu cynnwys, mewn ymgais gan y cyngor i wneud canol y ddinas yn fwy croesawgar fin nos.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd David Phillips, bod y cyngor wedi gweithredu nifer o reolau i geisio gwella'r broblem.
"Yn ogystal â'r heddlu, gwasanaethau iechyd ac elusennau, mae'r cyngor wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i'r afael â throseddu, cefnogi pobl y mae angen help arnynt a chadw pobl yn ddiogel."
Ond gyda dros 250 o dafarndai, clybiau a siopau trwyddedig mewn ardal fach yng nghanol y ddinas, mae'n dweud bod achosion o droseddu yn parhau i gynyddu.
"Mae'r ffigurau troseddu a nifer y cwynion mae'r cyngor yn eu cael yn awgrymu mai dyma'r adeg i gydnabod bod gennym ddigon o fannau i brynu alcohol ac mae angen gwneud rhywbeth i reoli nifer y trwyddedau alcohol a roddir yn y dyfodol."
Ar hyn o bryd, nid oes gan y cyngor y pŵer i gyfyngu ar nifer y tafarndai a chlybiau nos ar sail bod gormod ohonynt, a byddai rhaid i bob cais am drwydded gael ei asesu ar ei rhinweddau unigol.
'Cyfyngu ar hwyl'
Ond dydy Gareth Dudley, is-reolwr bar 'No Sign' yn Abertawe ddim yn gweld angen y cynllun newydd.
"Dydw i ddim yn gweld pwynt y cyngor yn dod yn rhan o hyn, mae angen iddyn nhw sylweddoli bod y stryd yn lle am hwyl, mae pawb yn dod yma i gwrdd â ffrindiau.
"Mae hyn bron fel tasau'r cyngor yn ceisio cyfyngu ar hwyl, a dydw i ddim yn gweld bod ei angen.
"Mae Stryd y Gwynt yn le da i ddod ar nos Wener neu Sadwrn, ac os ydw i'n cael amser i ffwrdd rydw i'n dod yma hefyd.
"Mae pobl i'w gweld yn ymddwyn yn iawn, ac mae'r heddlu o gwmpas os oes problem. Mae'r stryd wedi ei gau, mae 'na gamerâu ym mhobman, os oes unrhyw drwbl mae'n cael ei sortio yn syth."
Bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan Gyngor Abertawe wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2013
- 28 Tachwedd 2012
- 16 Chwefror 2012