Siom i Forgannwg yng nghystadleuaeth T20
- Cyhoeddwyd

Swydd Northampton sydd wedi symud ymlaen i chwarteri'r gystadleuaeth 20 pelawd wedi buddugoliaeth gyfforddus dros Forgannwg yn Stadiwm Swalec nos Wener.
Roedd perfformiadau da gan Cameron White a Mohammad Azarullah yn ddigon i helpu Northampton guro o chwe wiced, gyda naw pêl yn weddill.
Bydd rhaid i Forgannwg guro Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd ddydd Mawrth os ydyn nhw am gyrraedd wyth olaf y gystadleuaeth.
Morgannwg oedd y cyntaf i fatio, gan gyrraedd 125 am naw wiced yn eu 20 pelawd. Cymrodd Azarullah bedair wiced am ond 16 o rediadau mewn pedair pelawd.
Chris Cooke oedd prif sgoriwr y tîm cartref, gan sgorio 50 o 38 pêl.
Roedd Swydd Northampton yn chwarae yn gyfforddus ar ddechrau eu batiad nhw, gan gyrraedd 21 heb golli wiced o fewn tair pelawd.
Callum White oedd seren yr ymwelwyr, gan sgorio 71 oddi ar 48 pêl i sicrhau buddugoliaeth gyda 9 pêl yn weddill.
Morgannwg 125-9 (20 pelawd)
Swydd Northampton 129-4 (18.3 pelawd)
Northampton wedi curo Morgannwg o chwe wiced.
Straeon perthnasol
- 23 Gorffennaf 2013
- 19 Gorffennaf 2013