Cwyno am system barcio Pontardawe
- Cyhoeddwyd

Mae busnesau ym Mhontardawe yn dweud bod codi am barcio yn y dref wedi arwain at ostyngiad yn eu hincwm.
Ers mis Mai mae siopwyr yn gorfod talu am barcio yn y dref ac mae perchnogion rhai siopau'n adrodd bod eu henillion wedi gostwng hyd at ddau draean.
Maent yn honni fod siopwyr yn teithio i barc siopa tu allan i'r dref gan nad ydynt yn gorfod talu am barcio yno.
Pwrpas y polisi yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw rhyddhau mwy o lefydd parcio, ac maent yn dweud y bydd yn cael ei adolygu wedi 12 mis.
'Effaith ofnadwy'
Mae masnachwyr yn honni fod y polisi wedi gweithio'n rhy dda a bod cwsmeriaid bellach yn osgoi'r dref yn gyfangwbl.
Un sy'n dweud fod ei busnes wedi dioddef yn sgil y penderfyniad yw Linda Grimes sy'n rhedeg siop wlân ar Stryd Herbert.
"Mae wedi cael effaith ofnadwy. Ers iddyn nhw roi arwyddion fyny yn y maes parcio mae pobl wedi bod yn gyrru heibio," meddai.
Dadl y cyngor yw nad yw'r gost yn debygol o effeithio ar bobl sy'n siopa gan fod yr awr gynta' o barcio am ddim.
Maent yn dweud mai amcan y strategaeth oedd hybu sefyllfa lle roedd llawer o bobl wahanol yn cael parcio am gyfnod byrrach, yn hytrach na phobl yn parcio yn y dref ac yn aros yno drwy'r dydd.
Ffactor arall oedd yn rhan o'r penderfyniad oedd dymuniad y cyngor i sicrhau tegwch drwy gael yr un system ym Mhontardawe ag sydd eisoes mewn grym mewn trefi cyfagos fel Castell-nedd a Phort Talbot.
Ond dadl masnachwyr yw nad yw'n gwneud synnwyr i gymharu Pontardawe gyda threfi mwy ac nad yw'n glir nad oes cost yr awr gyntaf o barcio.
Bydd y cyngor yn adolygu'r polisi ym Mai 2014.