Dyn wedi ei anafu yn dilyn damwain
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed wedi derbyn anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn damwain ar y ffordd yn Sir Ddinbych.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6:29pm ddydd Gwener i Blas Einion, ger Rhiwabon.
Roedd y dyn yn gyrru fan arian Vauxhall Vivaro a cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio i unrhywun sydd â gwybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol