Traeth newydd ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd y traeth yn agored tan 1 Medi
Mae traeth wedi cael ei greu ym Mae Caerdydd fel rhan o Ŵyl Caerdydd.
Fe gafodd dros 300 tunnell o dywod a 900 galwyn o ddŵr eu cludo i ardd Plas Roald Dahl, ger Canolfan y Mileniwm.
Mae cynlluniau ar gyfer cynnal digwyddiadau cerddorol a dawns ar y traeth, fydd yn agored tan 1 Medi.
Dywedodd Huw Thomas o Gyngor Caerdydd: "Mae'n bwysig bod syniadau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer Gŵyl Caerdydd er mwyn ei gadw'n ddiddorol.
"Rwy'n siŵr y bydd y traeth yn ychwanegu rhywbeth gwych tuag at raglen yr ŵyl gan ddarparu hwyl am ddim i ddinasyddion ac ymwelwyr."
Mae'r traeth yn agored rhwng 11am i 9pm ddydd Sul i ddydd Iau, ac mae'n agor tan 10pm ar nos Wener a nos Sadwrn.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol