Ambiwlans awyr yn cludo dau i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn damwain ym Mhantglas, Powys.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân ryddhau'r ddau o'i ceir gydag offer arbennig wedi iddynt gael eu galw i roi cymorth.
Cafodd un o'r bobl â anafwyd ei gario i Ysbyty Treforys yn Abertawe a'r llall i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae unigolyn arall wedi derbyn triniaeth am anafiadau mân yn uned gofal brys Llandrindod.
Dylai unrhywun sydd â gwybodaeth am y digwyddiad alw'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol