Rhybudd dros nofio mewn hen chwareli
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio yn erbyn nofio mewn hen chwareli yn dilyn pryderon bod pobl wedi bod yn nofio yng Nglyn Rhonwy, ger Llanberis.
Yn ôl y cyngor mae nofio mewn llefydd o'r fath yn beryglus iawn oherwydd bod y dŵr llawer oerach na'r disgwyl a bod y cerrynt o dan y dŵr yn gallu bod yn gryf.
Maen nhw'n rhybuddio rhieni rhag gadael i'w plant fynd i nofio mewn hen chwareli, er gwaetha'r tywydd braf.
Bydd yr heddlu nawr yn cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal er mwyn gwneud i ddarpar nofwyr feddwl ddwywaith.
Peryglus
Yn gynharach yn ystod yr haf bu farw dau ddyn wedi iddyn nhw fod yn nofio mewn cronfeydd dŵr yn ardal y Bannau Brycheiniog.
Bu farw dyn arall o drawiad ar y galon wedi iddo fynd i drafferthion tra'n deifio yn Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle ym mis Gorffennaf.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw ddim am weld digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto.
"Rydym ni'n bryderus iawn fod aelodau o'r cyhoedd wedi dewis anwybyddu'r rhybuddion am y perygl," meddai'r cynghorydd John Wynn Jones.
Dywedodd fod pobl unai wedi bod yn fandaleiddio ffens neu dringo drosodd er mwyn nofio yn yr hen chwarel.
"Mae'r pyllau chwareli sy'n cael eu defnyddio gan rai ar gyfer nofio yn cynnwys nifer o beryglon gan gynnwys adfeilion o dan y dŵr a darnau garw o lechi.
"Gallai'r tymheredd ynddynt fod yn beryglus o oer" yn ôl Mr Jones, hyd yn oed ar ddiwrnod poeth.
Dywedodd bod Heddlu Gogledd Cymru bellach yn ymchwilio i'r mater.
Mae'r chwarel wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd ac mae'n cael ei ystyried fel lleoliad i adeiladu pwerdy ynni dŵr gwerth £100m ar hyn o bryd.
Yn ol rhai fe fyddai'r pwerdy'n difetha'r olygfa, ond mae eraill yn dadlau y byddai'n hwb i'r ardal.
Ond yn y cyfamser, dylai pobl gadw draw o'r safle.
"Mae'n neges ni'n syml," meddai'r John Wynn Jones, "os gwelwch yn dda cadwch draw o'r lleoliad peryglus hwn."
Straeon perthnasol
- 16 Gorffennaf 2013
- 7 Gorffennaf 2013
- 3 Ionawr 2013