Beirniadu'r data ar fewnfudo
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Cymreig wedi beirniadu'r ffordd mae Llywodraeth y DU yn casglu data ar fewnfudo.
Yn ôl Alun Cairns dyw'r data sy'n ymwneud â mewnfudo "ddim yn fanwl gywir".
Mae'n dadlau bod angen newid y ffordd mae Prydain yn cyfri faint o bobl sy'n symud yno o'r cyfandir.
Dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn cydnabod bod problem gyda'r system bresennol gan ddweud fod ganddynt ffydd yn nulliau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
'Dyfalu'
Mae'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus newydd gyhoeddi adroddiad sy'n dweud nad yw dulliau'r llywodraeth o gyfrif faint o bobl sy'n symud i'r DU yn ddibynadwy.
Maent yn awgrymu dylunio dull newydd er mwyn cyfri gan ddweud fod y system bresennol ddim llawer gwell na "dyfalu".
Dywedodd Mr Cairns, sy'n aelod o'r pwyllgor, nad yw'r ffigyrau yn "adlewyrchu cymhlethdod y ddadl".
"Fe allwn i edrych ar y rhifau fel rhoi arwyddion o dueddiadau cyffredinol ond pan rydym yn edrych ar y data mae'n ffordd llawer rhy annibynadwy o gyfrif," meddai.
"Y rheswm am hyn yw ei fod wedi ei seilio ar sampl, sy'n golygu bod yr elfen o wall yn eithaf mawr.
"Y broblem yw tra mae'r cyhoedd yn rhoi gymaint o bwyslais gwleidyddol ar fewnfudo nid oes gennym ffordd o'i asesu.
"Ar hyn o bryd ni ellir dibynnu ar y ffigyrau absoliwt sy'n cael eu cyhoeddi."
Mae'r AS Llafur Cymreig Chris Bryant hefyd yn credu bod y ffigyrau "braidd yn amheus".
Dywedodd Mr Bryant, sy'n cynrychioli'r Rhondda yn San Steffan: "Be ddylien nhw wneud ydi gweithredu system o gyfri'r nifer o bobl sy'n dod fewn a sy'n mynd allan."
'Y bobl iawn'
Ond mae'r Swyddfa Gartref yn anghytuno, gan ddweud y dylai pobl ymddiried yn nulliau'r swyddfa ystadegau.
Dywedodd Mark Harper sy'n weinidog yn y Swyddfa Gartref: "Maen nhw'n arbenigwyr ar hel data ac mae llai o bobl yn derbyn fisas ar gyfer dod i'r DU..."
"Rydym ni hefyd yn llwyddo i gael y bobl iawn yn symud yma. Felly rydym wedi lleihau mewnfudo net o draean drwy ar yr un pryd gynyddu'r niferoedd weithwyr medrus sy'n symud yma."