Cyhuddo dau o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd

Bu farw Paul Blackledge nos Sadwrn
Mae dau berson wedi eu cyhuddo o ddynladdiad ar ôl i ddyn 54 oed farw yn dilyn ymosodiad honedig tu allan i dafarn yn Abergele, sir Conwy.
Bu farw Paul Blackledge nos Sadwrn.
Fe wnaeth Tracey Jones, 47, ac Anthony Graham Smith, 39, ymddangos gerbron ynadon Prestatyn ddydd Llun a chawsant eu cadw yn y ddalfa.
Cafodd cwest i farwolaeth Mr Blackledge ei agor a'i ohirio ddydd Llun.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig nos Iau y tu allan i dafarn Pen-y-Bont ond ni chafodd yr heddlu eu hysbysu tan fore Sadwrn.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater gysylltu â'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol