Awyren fasnachol fwya wedi glanio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae awyren fasnachol fwya'r byd wedi glanio yng Nghaerdydd - yr awyren fwya erioed i lanio ym maes awyr rhyngwladol Cymru.
Y superjumbo yw'r awyren ddiweddaraf i ymuno â fflyd cwmni British Airways.
Mae'n gallu cludo hyd at 525 o deithwyr ar ei bwrdd.
Glaniodd yr awyren yn yng Nghaerdydd er mwyn profi gallu'r maes awyr i dderbyn awyren o'r maint yma.
Roedd y cwmni awyrennau wedi cydnabod y byddai'n her ond yn un bwysig - petai angen glanio awyren yno mewn argyfwng.
Mae gan BA ganolfan cynnal a chadw ym maes awyr Caerdydd, yn cyflogi cannoedd o bobl.
Mae adenydd yr A380 yn cael eu gwneud ym Mrychdyn, sir y Fflint.
'Modern a chyfleus'
Yn y cyfamser mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cyhoeddi manylion am fws gwennol newydd rhwng canol y brifddinas a'r maes awyr.
Bydd y gwasanaeth newydd, a fydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac a ddatblygwyd ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg a Chyngor Caerdydd, yn cynnwys:
•gwasanaeth bob 20 munud, saith diwrnod yr wythnos, a fydd ar gael o'n gynnar yn y bore tan yn hwyr y nos;
•seddi lledr o'r math a geir mewn coetsys, cyfarpar i reoli'r tymheredd, WiFi, mwy o le ar gyfer bagiau a gwell gwybodaeth ar y bws ei hun.
Dywedodd Mrs Hart: "Rhan o'r weledigaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu Maes Awyr Caerdydd yw ei gwneud hi'n haws i deithwyr fynd yn ôl ac ymlaen i'r maes awyr ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig ffordd fodern, gyfleus a chyfforddus i deithio yn ôl ac ymlaen i ganol y ddinas, a hynny am bris cystadleuol hefyd."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio, Arloesi, Cynllunio a Thrafnidiaeth: "Mae Cyngor y Fro yn falch o gael cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi ddarparu'r gwasanaeth newydd hwn.
"Rydyn ni'n teimlo'n gryf bod trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, sydd ar gael am brisiau gall pobl eu fforddio, yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod Maes Awyr Caerdydd yn ffynnu yn y dyfodol."
Fe brynodd Llywodraeth Cymru faes awyr Caerdydd am £52 miliwn ym mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2013