Corff dyn ar Graig Ddu ym Morfa Bychan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod ar greigiau ger Porthmadog.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Graig Ddu ym Morfa Bychan am 10.30am ddydd Sul.
Nid yw'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol