Cadeirydd newydd i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl droed Caerdydd wedi penodi cadeirydd newydd.
Mehmet Dalman sydd yn symud o'i swydd fel cyfarwyddwr i fod yn gadeirydd newydd y clwb.
Simon Lim oedd wedi bod yn y swydd dros dro, wedi ymddiswyddiad Dato Chan Tien Ghee ym mis Mawrth.
Bydd Lim yn parhau fel prif weithredwr, tra bod Dalman yn dechrau ei swydd newydd yn syth.
Mae Dalman, sy'n dod o Gyprus, wedi gweithio fel bancwr cyn ymuno a'r adar gleision, gan weithio gyda Deutsche Bank a Credit Suisse.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ei rôl newydd o fewn y clwb.
"Rydw i wedi mwynhau fy amser yn y clwb yn fawr iawn ers ymuno ym mis Ionawr 2012, ac rydw i nawr yn edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach i glwb Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair."
Daw'r newyddion wythnos wedi i'r clwb gyrraedd cytundeb gyda chwmni Langston am eu dyledion.
Mae perchennog clwb Caerdydd Vincent Tan wedi croesawu Dalman i'r swydd.
"Mae Mehmet wedi rhannu ei brofiad busnes o dros y byd gyda'r clwb ers ymuno ym mis Ionawr y llynedd," meddai.
"Mae hyn yn fwy o newyddion gwych i'r clwb yn dilyn datrysiad cyfeillgar gyda chwmni Langston wythnos diwethaf. Rydw i'n dymuno pob lwc iddo yn ei swydd newydd gyda chlwb pêl droed Caerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013