Ymchwiliad i farwolaeth gweithiwr asbestos
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib fod dyn a fu farw wrth weithio i dynnu asbestos o ysgol yng Nghwmcarn wedi ei drydanu i farwolaeth.
Bu farw James Paul o Abertyleri ar safle Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar 19eg o Orffennaf.
Cafodd ymchwiliad i'w farwolaeth ei agor a'i ohirio heddiw.
Cafodd yr ysgol ei gau oherwydd pryderon am ddiogelwch ym mis Hydref 2012, ac roedd Mr Paul yn un o'r gweithwyr oedd wedi bod yn tynnu'r asbestos o'r adeilad.
Clywodd y cwest bod Mr Paul, oedd yn 26 oed, wedi dioddef ataliad y galon wrth weithio yn nho'r ysgol.
Mae ymchwiliad gan Heddlu Gwent a'r Swyddog Iechyd a Diogelwch yn parhau, ac mae'r achos wedi ei ohirio tan 3ydd o Hydref.
Cafodd corff Mr Paul ei ryddhau i'w deulu.
Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei gau wedi'r darganfyddiad bod asbestos ar y safle yn risg i iechyd.
Roedd rhaid i 900 o ddisgyblion gael eu dysgu 12 milltir i ffwrdd ar gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy.
Mae cyngor Caerffili wedi gwario dros £1 miliwn i ddelio hefo'r asbestos, ac mae disgwyl i ddisgyblion ddychwelyd ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2013