Simon Jones yn ôl i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Simon JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Simon Jones yn chwarae am y tro cyntaf ers anafu ei ysgwydd ym mis Mai

Mae'r Cymro Simon Jones wedi ei gynnwys yn nhîm Morgannwg ar gyfer eu gem grŵp olaf yn y gystadleuaeth 20 pelawd nos Fawrth.

Bydd Morgannwg yn cyrraedd chwarteri'r gystadleuaeth os ydynt yn llwyddo i guro Swydd Gaerloyw yn Stadiwm Swalec.

Jones yw'r unig newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Swydd Northampton nos Wener, gan gymryd lle Rhuaidhri Smith.

Dyma fydd gem gyntaf Simon Jones, sydd wedi chwarae i Loegr yn y gorffennol, ers iddo anafu ei ysgwydd ym mis Mai.

Colli i Northampton

Daeth y golled gyntaf i Forgannwg yng Nghaerdydd y tymor yma yn erbyn Northants nos Wener, wrth i'r tîm cartref golli o chwe wiced.

Ond mae buddugoliaeth Swydd Caerwrangon dros Gwlad yr Haf yn rhoi cyfle arall i Forgannwg gyrraedd y rownd nesaf.

Mae'r timau sy'n gorffen yn gyntaf ac ail ym mhob grŵp yn symud ymlaen i'r rownd nesaf, tra bod dau o'r timau sy'n gorffen yn drydydd hefyd yn cael lle yn y chwarteri.

Byddai buddugoliaeth i Forgannwg nos Fawrth yn golygu eu bod yn symud ymlaen fel un o'r timau gyda'r pwyntiau uchaf o'r rheiny ddaeth yn drydydd.

Yn ôl y capten Marcus North, mae angen i'r tîm ganolbwyntio ar eu perfformiad eu hunain:

"Mae'n rhaid sicrhau bod y chwaraewyr yn canolbwyntio ar yr 20 pelawd hefo'r bat, a'r 20 hefo'r bel.

"Os ydyn ni'n dechrau meddwl am senarios posib, gallwn ni fynd i helynt. Y neges ydy i reoli beth allwn ni reoli.

"Ni fydd strwythur y tim yn newid llawer, gan ein bod ni wedi chwarae yn llawer gwell na'r ydym ni dros y blynyddoedd diwethaf."

Morgannwg V Swydd Gaerloyw, Friends Life t20

Stadiwm Swalec, Caerdydd. Dydd Mawrth 30ain o Orffennaf. Dechrau 6.30yh.