Cyngor Wrecsam yn gwrthod cynllun ffatri wyau
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwrthod cynlluniau dadleuol ar gyfer ffatri wyau a fyddai'n dal dros 17,000 o ieir.
Roedd adrodiad wedi argymell cymeradwyo datblygiad i Ffarm Talwrn er gwaethaf deiseb oedd wedi ei arwyddo gan 112 o wrthwynebwyr.
Yn ogystal â phryderon ynglŷn â'r sŵn fyddai'n cael ei wneud gan 16,000 o ieir a 1,200 o geiliogod, roedd pryder y byddai problemau gydag arogl a phryfaid.
Ond cafodd y cais ei wrthod oherwydd teimlad y byddai'r ffatri yn mynd yn erbyn polisïau yn y cynllun lleol, ac yn cael effaith negyddol ar ffyrdd, gyda nifer fawr o loriau yn teithio yno.
400 tunnell o dail
Byddai'r adeilad 260 a 85 troedfedd wedi creu 400 tunnell o dail bob 60 wythnos er mwyn ei ddefnyddio ar dir lleol.
Roedd adroddiad i'r ffatri yn dweud: "Mae gan yr ieir y tu mewn i'r math hwn o system le i symud o gwmpas.
"Mae ganddyn nhw sbwriel i grafu a llwch i ymdrochi ynddo, clwydi i glwydo arnynt a blychau nythu lle gallant nythu a dodwy wyau."
Ychwanegodd: "Ar ôl 60 wythnos mae dirywiad yn ansawdd a chynhyrchiant yr wyau a pan fydd hynny'n digwydd bydd ieir eraill yn symud yno, unwaith mae'r hen uned wedi cael ei lanhau.
"Bydd yr holl dail a gwastraff yn cael ei gymryd oddi ar y safle yn ystod y cyfnod hwn, a bydd yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith neu mewn gweithfa."
Yr amcangyfrif oedd y byddai angen rhwng 15 a 20 lori er mwyn symud y tail ar ddiwedd pob cylch 60 wythnos.
Deiseb
Roedd y ddeiseb yn gwrthwynebu'r ffatri wedi ei arwyddo gan 112 o bobl.
Yn ôl yr adroddiad roedd 82 o bobl hefyd wedi cysylltu â'r cyngor yn uniongyrchol i gwyno.
Roeddent yn poeni am:
- Ddrewdod o'r fferm;
- Cynnydd mewn nifer y pryfaid a llygod mawr;
- Sŵn yn effeithio ar wasanaethau yn yr amlosgfa gyfagos.
Mae eisoes yn anghyfreithlon cadw ieir mewn amodau 'batri' felly unedau dodwy wyau sy'n cael eu galw yn rhai 'ysgubor' yw'r norm erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- 11 Chwefror 2009