Lliwio dannedd: perocsid yn y cynnyrch yn Sioe Llanelwedd
- Cyhoeddwyd

Mae lefelau uchel o gannydd wedi ei ddarganfod mewn pecynnau lliwio dannedd oedd ar werth yn y Sioe Frenhinol.
Dangosodd profion bod lefelau perocsid 100 gwaith yn uwch na'r hyn y dylen nhw fod yn y cynnyrch.
Fe allai'r cannydd wneud unrhyw afiechydon yn y geg yn waeth a hyd yn oed achosi llosgiadau cemegol yn y geg.
Mae dau gwmni busnes yn helpu adran safonau masnach gyda'i ymholiadau.
Dywed Cyngor Sir Powys y dylai unrhyw un wnaeth brynu'r pecynnau lliwio dannedd gysylltu gyda'i deintydd cyn eu defnyddio.
"Mae Adran Safonau Masnach Powys yn cynnal ymholiadau er mwyn ceisio dod o hyd i'r rhai sydd wedi creu'r cynnyrch a'r bobl sydd yn eu darparu fel eu bod yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad," meddai'r cynghorydd Barry Thomas sydd hefyd yn aelod cabinet ar gyfer safonau masnach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd28 Medi 2010