Arestio dyn fel rhan o ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn lleol 46 oed fel rhan o'u hymchwiliad i honiadau o gam-drin rhywiol a chorfforol hanesyddol yn ardaloedd Caerffili ac Aberfan.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Yn y cyfamser, mae'r dyn 55 oed o ardal Parc Lansbury a'r fenyw 44 oed o ardal Tredegar Newydd gafodd eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi eu cadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd ar Awst 1.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.